Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
14 Rhagfyr 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael a'r prinder gwrthfiotigau dros gyfnod y Nadolig?
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Joel James (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i sicrhau safonau cyflogaeth mwy trwyadl yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru yn sgil yr honiadau yn erbyn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Datganiad gan Peter Fox - Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod: Bil Bwyd (Cymru)
(60 munud)
Dogfennau Ategol
Bil Bwyd (Cymru) (fel y'i cyflwynwyd)
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol
(60 munud)
NDM8166 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder ar drais ar sail rhywedd – Anghenion menywod mudol, a osodwyd ar 26 Hydref 2022.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2022.
7 Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant
(60 munud)
NDM8165 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU.
2. Yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld cyfraddau tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020.
3. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu penodol a brys yn y maes hwn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i ategu gan dargedau statudol, a hynny ar frys.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i Strategaeth Tlodi Plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i helpu i leddfu'r pwysau costau byw y mae cartrefi yng Nghymru yn eu hwynebu.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8148 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Gwasanaethau bancio yn Gymraeg
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Ionawr 2023